Grŵp Trawsbleidiol Gorchwyl a Gorffen Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Blant sy’n Dioddef gan fod eu Rhieni wedi’u Carcharu
Amserlen a ffocws arfaethedig ar gyfer cyfarfodydd:
Mai 13eg Hanner Dydd Tŷ Hywel
Cyfarfod agoriadol
Yn y cyfarfod hwn, penodir aelodau i rolau allweddol, esbonnir sail resymegol y grŵp, cytunir ynglŷn â chylch gorchwyl a chynllun gwaith, ceir cyflwyniadau gan aelodau i osod y cyd-destun.
Dedfryd Gudd
Bydd y cyfarfod hwn yn archwilio’r “Ddedfryd Gudd” a gyflawnir gan blant a theuluoedd y sawl a garcharwyd a cheir cyflwyniadau gan aelodau i ganolbwyntio ar rai o’r materion allweddol.
Addysg
Bydd y cyfarfod hwn yn trafod rôl addysg wrth glustnodi a chefnogi plant a theuluoedd sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu a thrafod y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud yng Nghymru i ddatblygu’r maes hwn.
Menywod mewn carchar
Archwilio’r materion penodol sy’n effeithio ar droseddwragedd o Gymru sy’n cael eu carcharu y tu allan i Gymru, a’r effaith ar eu teuluoedd.
Arian/Budd-daliadau
Bydd y cyfarfod hwn yn canolbwyntio ar yr effaith ariannol y mae rhiant/gofalwr mewn carchar yn ei chael, a sut mae colli incwm neu fudd-dal yn gallu gwthio teuluoedd agored i niwed i dlodi pellach.
Beth nesaf?
Bydd y cyfarfod hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno’r ymchwil sydd eisoes wedi’i chyflawni gydol oes y Grŵp Trawsbleidiol, a bydd yn ceisio dynodi strategaeth ar gyfer gyrru’r argymhellion yn eu blaen.